Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Monitro'r cynnydd

Er bod y Cynllun Corfforaethol yn berchen i’r Cyngor llawn, y Cabinet a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth fydd yn gyfrifol am lywodraethu parhaus y Cynllun Corfforaethol. Serch hynny, ni ellir darparu’r cynllun ar ei ben ei hun i bartneriaid eraill, strategaethau, cyrff darparu, gwasanaethau neu swyddogaethau craffu. Wrth gwrs, mae’r cynllun wedi cael ei lunio i ystyried, ac adeiladu ar feysydd presennol o ddarpariaeth ac mae’n bwysig eu bod i gyd yn cydweithio i warantu ei lwyddiant.

Diagram yn dangos bod y Cynllun Corfforaethol (sy’n cynnwys ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol) yn cael ei lywodraethu a’i oruchwylio gan swyddogaethau gweithredol ac yn cysylltu â gwahanol strategaethau, partneriaethau strategol, byrddau cyflenwi, swyddogaethau craffu a gwasanaethau’r cyngor

Disgrifiad Diagram Portffolio.

Mae gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad cryf ar waith a fydd yn berthnasol i fonitro ac adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Bydd hyn yn cynnwys fframwaith perfformiad cadarn, wedi’i gytuno gan reolwyr a chynghorwyr, sydd yn arddangos dangosyddion, mesuryddion perfformiad a gweithgareddau gyda thargedau clir a disgwyliadau a fydd yn cyfateb i’r uchelgais sydd gennym ar gyfer ein cymunedau.

Byddwn yn llunio adroddiadau perfformiad yn erbyn y fframwaith yma bob tri mis, gan ei rannu gyda’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Cabinet a phwyllgor Craffu i hysbysu eu penderfyniadau yn well o ran lle mae angen gwelliant a sut y caiff adnoddau eu clustnodi. Caiff yr adroddiadau yma, sy’n ffurfio ein Hunan-asesiad o Berfformiad (sydd ei angen o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, eu rhannu hefyd gyda’n Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyngor llawn yn flynyddol, a’u cyhoeddi ar ein tudalennau gwe perfformiad.

Byddwn yn adolygu ein hamcanion a chamau gweithredu yn flynyddol er mwyn sicrhau mai dyma’r rhai cywir ar gyfer ein cymunedau, mae hyn yn cynnwys gofyn am adborth gan ein preswylwyr. Rydym hefyd yn derbyn na fydd popeth rydym yn gobeithio ei wneud yn bosibl wrth i amgylchiadau newid. Byddwn bob amser yn dryloyw am unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud, ac yn adrodd ar unrhyw newidiadau a’r rhesymwaith y tu ôl iddynt.