Cyngor wedi'i reoli'n dda, sy'n perfformio'n dda 

Cyngor

Yr hyn a ddymunwn

Bod yn Gyngor teg, tryloyw, sy’n perfformio’n dda, yn cynnig gwerth am arian a gwasanaeth da i gwsmeriaid yn gyson. Dymuna’r Cyngor fod yn gyflogwr creadigol, dewr, uchelgeisiol, hyderus a rhagorol sy’n gweithredu ar sail trefniadau llywodraethu a sicrwydd cadarn. Bydd y Gymraeg hefyd yn iaith fyw sy’n ffynnu yn y Cyngor.

Yr hyn y bwriadwn ei wneud:

  1. Sefydlu diwylliant cadarnhaol “un Cyngor” drwy:
    • Seilio popeth a wnawn ar ein gwerthoedd o uniondeb, parch, undod a balchder.
    • Bod yn agos at ein cymunedau, hybu arweinyddiaeth a gwytnwch yn ein cymunedau, a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid yn gyson.
    • Gwella ein gwasanaethau drwy hyrwyddo, ymgysylltu a chyfathrebu’n ystyrlon â’r cyhoedd, cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a phartneriaid.*
    • Gosod disgwyliadau pendant am berfformiad drwy hyrwyddo diwylliant cryf o reoli perfformiad a bod yn atebol, realistig, agored a gonest am sut rydym yn perfformio fel Cyngor.
    • Hyrwyddo cyfathrebu da a chysylltiadau gwaith agos rhwng aelodau etholedig a swyddogion.
    • Sicrhau fod Cyngor Sir Ddinbych yn gyflogwr da ac yn lle ardderchog i weithio.
  2. Lleihau anghydraddoldeb drwy sicrhau fod profiadau pobl o gefndiroedd amrywiol, grwpiau nas clywir yn aml, a’r rheiny dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael eu clywed ac yn llywio penderfyniadau.*
  3. Cyfrannu at sicrhau bod yno filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 drwy feithrin diwylliant ac ethos sy’n annog aelodau etholedig a staff y Cyngor i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, a darparu hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol i wella eu hyder yn defnyddio’r iaith.
  4. Cydweithio i ddatrys problemau â recriwtio a chadw staff.

* Amcanion cydraddoldeb.