Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl
Yr hyn rydym ni eisiau
Sicrhau fod digon o dai o ansawdd uchel ar gael, gan ddiwallu anghenion holl drigolion Sir Ddinbych.
Ein nod:
- Sicrhau fod tai o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion pobl ddiamddiffyn, a’u helpu i fyw bywydau annibynnol mewn llety priodol am gyn hired â phosibl.
- Atal digartrefedd, a sicrhau fod unrhyw achosion o ddigartrefedd yn brin, byr ac na chaiff ei ailadrodd. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael gofal.*
- Uwchraddio stoc dai’r cyngor i sicrhau eu bod yn:
- Ddiogel ac yn cael eu cynnal yn dda
- Lle bo hynny’n bosibl, bodloni anghenion trigolion, er enghraifft, y rheiny ag anableddau.*
- Effeithlon o ran ynni ac wedi’u hinswleiddio'n dda.
- Cyfeirio trigolion at gyfleoedd i wella effeithlonrwydd eu cartrefi.
- Darparu mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol, gan gynnwys:
- 300 o dai fforddiadwy yn amodol ar argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru
- 35 o gartrefi arbenigol drwy Gynlluniau Gofal Ychwanegol
- 170 o dai cyngor yn amodol ar argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru
- Gweithio i sicrhau cyn lleied o dai gwag â phosibl yn Sir Ddinbych
- Archwilio sut gallwn ddiogelu tai drwy ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i reoli effaith ail dai
- Sicrhau fod ein trigolion yn cael gwybod am yr opsiynau a’r llwybrau tai sydd ar gael, yn ogystal â cheisio lleihau rhestr aros Un Llwybr Mynediad at Dai. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â’r rheiny sydd eisoes yn byw mewn tai cyngor, a’r rheiny ar incwm isel.
* Amcanion cydraddoldeb.