Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: crynodeb gweithredol

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg Sir Ddinbych wedi ei datblygu o amgylch y weledigaeth o sicrhau fod yr Iaith Gymraeg yn iaith ffyniannus sy’n esblygu o fewn cymunedau Sir Ddinbych, yn ogystal ag o fewn ein sefydliad. 

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, penderfynwyd barhau gyda’r themau yn y strategaeth wreiddiol gan eu bod yr un mor gymwys, perthnasol a chyfredol i gyrraedd ein nod.

Mae Thema 1 (addysg, gwasanaeth ieuenctid a hamdden) yn edrych ar gynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n dod yn rhugl yn yr Iaith Gymraeg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol ac annog mwy o ddefnydd o’r iaith wedi iddynt adael yr ysgol. Rydym hefyd yn edrych ar wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau cymdeithasol drwy weithio gyda'n gwasanaethau Ieuenctid a Hamdden.

Mae Thema 2 (y gymuned) yn edrych ar faterion sy’n effeithio cymunedau o safbwynt yr Iaith Gymraeg, gyda ffocws penodol ar effaith ein penderfyniadau polisi. Rhoddir ffocws allweddol ar faterion cynllunio lleol a’r Fframwaith Mwy Na Geiriau er mwyn cyfoethogi gwasanaethau dwyieithog mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Thema 3 (busnes a’r economi) yn edrych ar sut y dylai Sir Ddinbych a'i phartneriaid o ran datblygu economi gydnabod pwysigrwydd economi ffyniannus i ddyfodol yr iaith Gymraeg a sicrhau fod strategaethau yn eu lle er mwyn sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc i aros yn y gymuned leol.

Mae Thema 4 (gweinyddu mewnol y Cyngor) yn edrych ar sut gall y Cyngor hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy ddarparu hyfforddiant i staff a hybu ethos dwyieithog yr awdurdod drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â rhai o’r meysydd gwaith allweddol a nodwyd o safbwynt datblygu’r iaith Gymraeg. Mae manylion y broses ar gyfer monitro a rheoleiddio’r strategaeth hon yn cael eu cynnwys yn Adran 6.