Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: crynodeb o’r heriau
Er mwyn i ni allu canfod cyfleoedd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ac i gynyddu nifer y siaradwyr, mae angen i ni hefyd allu cydnabod yr heriau a’r rhwystrau sydd yn atal hynny. Mae angen i ni allu adnabod yr ardaloedd o’r sir, neu’r rhannau o fywyd, lle mae pobl yn defnyddio llai o’r iaith yn eu bywyd dyddiol, a deall pa ffactorau sydd yn gallu effeithio ar ddefnydd personol unigolyn o’r iaith.
Gwyddwn fod yr iaith yn parhau i wynebu heriau hanesyddol fel mudo, pobl ifanc yn symud allan o ardaloedd gwledig i chwilio am waith, a diffyg trosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r llall. Mewn amser cawn weld faint o effaith mae covid 19 wedi’i gael ar gymunedau gwledig a’r ffaith fod pobl yn manteisio ar y gallu i weithio o bell.
Mae effaith y pandemig ar ffaith fod Sir Ddinbych wedi colli cyfanswm o 2.1% o siaradwyr Cymraeg yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf (cyfrifiad 2021) yn golygu ei bod hi’n fwy pwysig nag erioed i sicrhau fod yr iaith yn iaith fyw a ffyniannus o fewn ein cymunedau.
Er mwyn gallu annog y defnydd hwnnw o’r Gymraeg, mae angen ystyried effaith yr heriau, a sut y gallwn fynd i’r afael â nhw er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i bobl ar draws y sir ddefnyddio ac arddel yr iaith o ddydd i ddydd.
- Heriau daearyddol: Gwahaniaethau yn nifer a chanran y siaradwyr ar draws y sir, a’r amrywiaeth swyddi/gwasanaethau sydd ar gael mewn rhai ardaloedd gwledig yn golygu bod angen atebion ac ymyraethau gwahanol er mwyn gwarchod y Gymraeg.
- Trosglwyddo’r iaith o fewn y teulu; Teuluoedd ddim yn trosglwyddo’r iaith i’w plant gan arwain at golli’r Gymraeg fel iaith cartref.
- Colli nifer siaradwyr ar ôl 16 oed: Dim dilyniant cadarn o ddefnydd wrth adael addysg a phobl ifanc yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r iaith wrth fynd mewn i fyd gwaith ac yn eu bywyd cymdeithasol fel oedolion.
- Statws y Gymraeg fel iaith busnes: Dim defnydd digon amlwg o’r Gymraeg gan fusnesau
- Hyder unigolion yn eu gallu a’u sgiliau: Diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn rheolaidd wrth gymdeithasu ac anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg yn gallu arwain at ddiffyg hyder ac at lai o ddefnydd.