Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: rhagair

Rhagair

Rydym yn falch o ddarparu’r fersiwn ddiwygiedig o’n Strategaeth Iaith Gymraeg, yn dilyn adolygiad strategol. Mae hi’n bum mlynedd ers i’r fersiwn gyfredol gael ei chymeradwyo, ac yn ystod y cyfnod yma mae nifer fawr o wellianau wedi’u cyflwyno i hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn fewnol ac o fewn y gymuned ehangach. Roedd Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi’r Llywodraeth i osod safonau o safbwynt yr Iaith Gymraeg ac roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r Cyngor fabwysiadu Strategaeth Iaith Gymraeg, fel rhan o’i ymateb i’r Safonau. Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth, rydym nawr yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig. Nes ymlaen yn y Strategaeth byddwn yn amlinellu rhai o brif gyrhaeddiadau a gwersi sy’n deillio o’r strategaeth.

Mae’r Cyngor yn parhau i ymateb yn gadarnhaol i’r Safonau Iaith Gymraeg ac rydym wedi llwyddo i benodi Swyddog Iaith Gymraeg mewn ymateb i’r Safonau a’r Strategaeth er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn ac i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru o fewn y gweithlu. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r fframwaith ‘Mwy Na Geiriau’ sydd wedi ei sefydlu er mwyn gwella darpariaeth iaith Gymraeg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cynllun gweithredu cynhwysol yn ei le ac mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i roi’r cynllun hwnnw ar waith yn y sir, er budd trigolion y sir. Mae gan y Cyngor hefyd Bartneriaeth Strategol Y Gymraeg mewn Addysg sy’n edrych ar ddatblygiad strategol yr iaith Gymraeg yn ysgolion y sir. Mae Cynllun Gweithredu wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Cyfuno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r Fforwm Iaith

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg hyd at 2032 Sir Ddinbych yn cynnwys gwybodaeth am uniad y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol gyda Fforwm Iaith y Sir. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymdrechion swyddogion y Fforwm Iaith wedi bod ar gyfuno’r Fforwm a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan ddilyn modelau llwyddiannus eraill.

Golyga hyn fod pob cyfarfod yn cael ei rannu’n ddwy ran gydag un rhan yn benodol i Addysg a’r llall yn benodol ar gyfer y Fforwm Iaith. Bydd isafswm o 3 cyfarfod yn ystod pob blwyddyn a bwriedir cael Cadeirydd annibynnol. Prif fanteision y strwythur hyn yw sicrhau bod cyfeiriad strategol clir, lleihau dyblygiad gweithgareddau a chynyddu’r cyfle i randdeiliad gydweithio â’i gilydd.

Edrych tua’r dyfodol

Rydym wedi creu ein gweledigaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych.

  • Mae’r Cynllun Corfforaethol 2022-27 yn gwneud ymrwymiad cadarn i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith ffyniannus ac sy’n esblygu.
  • Sir ddwyieithog gan fwyaf yw Sir Ddinbych gyda threftadaeth a diwylliant cyfoethog. Rydym yn falch o hyn ac am i’r balchder hwnnw gael ei adlewyrchu yn ein gwaith dyddiol gyda chymunedau, gyda thrigolion a gyda’n staff.
  • Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod egwyddorion y Safonau Iaith yn sail i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd; rydym am i bobl allu cael mynediad at wasanaethau drwy eu dewis iaith naturiol, ar bob cam o’u bywydau.
  • Rydym am ychwanegu at ddiwylliant ac ethos dwyieithog y sefydliad, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chymdeithasol i’n staff i weithio yn y Gymraeg ac i gynyddu eu hyder i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.
  • Rydym am weithio gyda phartneriaid a’r gymuned ehangach i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith ffyniannus yn Sir Ddinbych.
  • Mae gennym uchelgais i fod yn arweinwyr sector yn natblygiad yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

Ein nod yw atal y gostyngiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn Sir Dinbych dros y bum mlynedd nesaf, gyda’r bwriad o ystyried targed tymor hwy i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg dros y 15 mlynedd nesaf. Bydd y Cyngor yn darparu prif elfennau’r strategaeth hon drwy weithio’n strategol ac mewn cydweithrediad gydag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol er mwyn prif ffrydio’r iaith Gymraeg ymhellach i ddarpariaeth gwasanaeth ac i sicrhau ei bod yn ystyriaeth hanfodol ym mhrosiectau, strategaethau a chynlluniau gwaith y dyfodol.

Mae’n hanfodol fod yr iaith Gymraeg yn ffurfio rhan allweddol o’r broses creu polisi ym mhob un o'n meysydd gwaith, gan gynnwys cynllunio, adfywio, addysg a gofal cymdeithasol. I’r diben hwn, bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau fod cynllunio ieithyddol yn ddeilliant mwy strategol, er mwyn sicrhau bod yr holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd tuag at yr un nod: gwarchod a chyfoethogi’r Iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych. Gobeithiwn fod y gwaith partnaeriaeth sy’n mynd ymlaen gyda sefydliadau blaenllaw yn y Sir yn gwneud gwahaniaeth.

Cynghorydd Emrys Wynne
Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth

Gary Williams
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes

Graham Boase
Prif Weithredwr

Jason McLelland
Arweinydd y Cyngor