Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: thema 4 - gweinyddiaeth fewnol y Cyngor

Mae economi Sir Ddinbych yn dibynnu’n helaeth ar y sector cyhoeddus. Mae gan y sir gyfran uwch o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus nag unrhyw ran arall o’r DU, yn arbennig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Cyngor Sir ymysg y corff cyhoeddus fwyaf o safbwynt cyflogaeth, caiff oddeutu 5,000 o bobl eu cyflogi gan y Cyngor. 

Mae gan y Cyngor felly rôl ganolog o safbwynt darparu arweinyddiaeth a gosod esiampl mewn amrywiaeth o feysydd amrywiol iawn. Yn ganolog i hyn gall y Cyngor gynnig arweinyddiaeth gref o safbwynt datblygu’r iaith Gymraeg a hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth unigryw’r ardal. Yn y cyd-destun hwn, mae’n bwysig ystyried rôl y Cyngor fel darparwr gwasanaethau ar gyfer cymuned ddwyieithog ond hefyd fel cyflogwr arwyddocaol.  Caiff hyn ei gydnabod yn Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor sy’n nodi taw – ‘Bwriad y Strategaeth yw adeiladu ar y cryfderau economaidd a ddarperir gan hunaniaeth a diwylliant Cymreig cryf Sir Ddinbych, ac i annog busnesau, trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.’  Er mwyn ymateb i'r gostyngiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg dros ddegawdau diweddar, mae angen i'r Cyngor Sir fod yn fwy rhagweithiol drwy osod disgwyliadau uwch i'w hun fel corff a all arwain y ffordd i godi statws a chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y sir. Dros gyfnod o amser, gallai’r dull gweithredu hwn arwain at ddatblygu ethos gweithlu a diwylliant a fyddai’n adlewyrchu natur ddwyieithog y cymunedau y mae’r Cyngor yn eu gwasanaethu.

Mewn amser, byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i ddatblygu gyda hyder i gychwyn gweinyddu yn naturiol ddwyieithog yn y dyfodol.  Dyma ganlyniadau archwiliad yn 2023 o sgiliau iaith y staff gan ddilyn y Fframwaith Sgiliau Iaith isod:

Lefel 0

Dim lefel bresennol o Sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd.

Lefel 1: mynediad

  • gallu ynganu enwau lleoedd/enwau cyntaf Cymraeg neu arwyddion Cymraeg yn gywir
  • gallu cyfarch a chyflwyno pobl eraill yn Gymraeg
  • gallu dangos cwrteisi ieithyddol trwy agor a chau sgwrs
  • gallu deall a throsglwyddo manylion personol

Lefel 2: sylfaen

  • gallu deall hanfod sgyrsiau yn Gymraeg
  • gallu cyfleu gwybodaeth sylfaenol e.e. tasgau gweinyddol neu arferol syml
  • deall a throsglwyddo cyfarwyddiadau a chyfeiriadau

Lefel 3: canolradd

  • gallu sgwrsio’n rhannol yn Gymraeg ond yn troi i Saesneg mewn sgwrs i roi gwybodaeth fanwl
  • gallu disgrifio pobl a lleoliadau

Lefel 4: uwch

  • gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn eu maes gwaith a dadlau o blaid eu yn erbyn achos
  • gallu delio â phobl yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi i Saesneg wrth ddelio â sefyllfaoedd cymhleth

Lefel 5: hyfedredd

  • gallu delio’n effeithiol gyda sgwrs gymhleth a chwestiynau yn Gymraeg
  • gallu addasu steil yr iaith i weddu pob sefyllfa ac angen

(*ac eithrio Ysgolion)

Gwrando a siarad
LefelNiferCanran (%)
Lefel 0 289 12.09
Lefel 1 759 31.76
Lefel 2 243 10.17
Lefel 3 126 5.27
Lefel 4 132 5.52
Lefel 5 135 5.65
No information 706 29.54
Cyfanswm 2390 100%
Darllen a deall
LefelNiferCanran (%)
Lefel 0 354 14.81
Lefel 1 742 31.05
Lefel 2 194 8.08
Lefel 3 121 5.06
Lefel 4 147 6.15
Lefel 5 125 5.23
No information 707 29.58
Cyfanswm 2390 100%
Ysgrifennu
LefelNiferCanran (%)
Lefel 0 559 23.39
Lefel 1 596 24.94
Lefel 2 197 8.24
Lefel 3 120 5.02
Lefel 4 87 3.64
Lefel 5 135 5.65
No information 706 29.54
Cyfanswm 2390 100%

Er mwyn adeiladu ar y sylfeini hyn mae’n bwysig fod y Cyngor Sir yn cydnabod yr iaith Gymraeg fel sgil o fewn y gweithlu ac yn magu hyder staff i ddefnyddio’r iaith Gymraeg drwy eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau ymhellach er mwyn gallu gweithio’n naturiol ddwyieithog ac i annog a chefnogi staff heb sgiliau iaith Gymraeg i ddysgu'r iaith dros gyfnod o amser.

Pencampwyr y Gymraeg

Mae gan bob Gwasanaeth yn y Cyngor Bencampwr y Gymraeg gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd i fonitro cynnydd gyda’r Safonau ynghyd â rhannu arferion da a gweithredu fel cyfaill beirniadol.  Mae gan yr aelodau ddealltwriaeth trylwyr o anghenion y Safonau a'r strategaeth gysylltiedig yn ogystal â chynnal ymarferion siopwr cudd.  Byddwn yn cydweithio’n agos â’r Pencampwyr er mwyn hybu a hwyluso digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg o fewn y Cyngor.

Yn ogystal â chefnogi staff presennol y Cyngor, rydym yn parhau i roi ystyriaeth fanwl i bolisïau recriwtio a gweithlu’r Cyngor er mwyn cefnogi’r nod o ddatblygu fel corff dwyieithog.  Mae hyn yn cynnwys categoreiddio swyddi a hyrwyddo’r angen i osod gofynion ieithyddol mewn swydd ddisgrifiadau.  Mewn ymateb i’r Safonau mae‘r Cyngor wedi bod yn rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn datblygu ac amlinellu sut y mae’n bwriadu cynllunio ar gyfer datblygu gweithlu dwyieithog, meithrin sgiliau ieithyddol staff a mabwysiadu polisi recriwtio a fyddai’n galluogi’r Cyngor i normaleiddio’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ei waith gweinyddu o ddydd i ddydd ac yn y gwasanaethau mae'n ei ddarparu.

Camau gweithredu a chyfrifoldebau

Cam gweithredu: Parhau i ddatblygu rôl gwasanaeth Pencampwyr yr Iaith Gymraeg.

Cyfrifoldeb: Pencampwyr yr Iaith Gymraeg

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Hyrwyddo a marchnata cyrsiau Iaith Gymraeg.

Cyfrifoldeb: Swyddog yr Iaith Gymraeg / Adnoddau Dynol

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Sicrhau fod yr holl staff yn cwblhau modiwl e-ddysgu ar Ymwybyddiaeth yr Iaith Gymraeg.

Cyfrifoldeb: Holl staff y Cyngor

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Trefnu diwrnodau blynyddol cenedlaethol sy’n dathlu'r Iaith Gymraeg - e.e. Diwrnod Shwmae Su’mae, Owain Glyndŵr, Dydd Gŵyl Dewi.

Cyfrifoldeb: Swyddog yr Iaith Gymraeg a Phencampwyr yr Iaith Gymraeg

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Cynnal ymgyrchoedd mewnol i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Cyfrifoldeb: Swyddog yr Iaith Gymraeg a Phencampwyr yr Iaith Gymraeg

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Categoreiddio holl swyddi’r Cyngor o ran sgiliau iaith Gymraeg a hyrwyddo swyddi’n defnyddio’r lefelau hyn.

Cyfrifoldeb: Adnoddau Dynol a Swyddog yr Iaith Gymraeg

Erbyn pryd? - Ebrill 2027


Cam gweithredu: Cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i annog staff i gymryd rhan a chadw momentwm i fynd i ddysgu Cymraeg e.e sesiynau Paned a Sgwrs, Eisteddfod Staff ayb.

Cyfrifoldeb: Swyddog yr Iaith Gymraeg a Phencampwyr y Gymraeg

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Darparu hyfforddiant i staff ar y dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Cyfrifoldeb: Swyddog Iaith Gymraeg

Erbyn pryd? - Ebrill 2026


Cam gweithredu: Cryfhau y broses groesawu/anwytho trwy roi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd y Safonau Iaith Gymraeg a diwyllaint fel fod staff yn perchnogi’r iaith.

Cyfrifoldeb: Adnoddau Dynol / Adran Gyfathrebu

Erbyn pryd? - Ebrill 2026