Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: yr Iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych

Lluniwyd y dadansoddiad canlynol ddiwedd mis Mai 2023, yn seiliedig ar y set ddata ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Dengys canlyniadau Cyfrifiad 2021 bod 20,940 o bobl Sir Ddinbych yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn cyfateb i 22.5% o’r boblogaeth. Cyfanswm y nifer oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 oedd 22,240, sef 24.6%o’r boblogaeth. Dros gyfnod o ddeng mlynedd gwelwyd cwymp o 1,300 mewn nifer a 2.1% fel canran o siaradwyr Cymraeg yn y sir. Esbonnir hyn gan y cwymp yn y nifer o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg (-1,300) a thwf ym mhoblogaeth y sir (+2,066).

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod y pandemig coronafeirws COVID-19. Nid yw eto yn hysbys sut y gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar ddata’r Cyfrifiad mewn perthynas a sgiliau Cymraeg. Dylid nodi bod cyfnod y pandemig wedi’i nodweddu gan gyfnodau clo, plant yn dysgu o bell, a newid sylweddol ym mhatrymau gwaith a chymdeithasu.

Er hyn, dylid ystyried bod y cwymp nodwyd uchod wedi’i fesur rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021, sydd y tu hwnt i gyfnod penodol y strategaeth iaith (2017-2022).

Dosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg

Mae dosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg Sir Ddinbych ychydig yn fwy gwastad na’r hyn a geir yn Sir Conwy. Yn gyffredinol ceir cymdogaethau gyda’r canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg yn ardal y glannau yn nhrefi’r Rhyl a Phrestatyn (rhwng 4.9% ac 20% gydag un ardal ar 26.3%).

Ceir y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng nghymdogaethau gwledig De-Orllewin y sir ond mae’r canrannau wedi bod yn gostwng yn gyson gyda phob cyfrifiad. Bellach dim ond dwy gymdogaeth sydd â dros 60% yn medru’r Gymraeg gyda llond dyrnaid ychydig dros y 50%. Dylid nodi, fodd bynnag, fod poblogaeth y cymdogaethau hyn yn fechan. Mae’r tabl isod yn dangos yr adrannau etholiadol sydd â’r canrannau uchaf a’r isaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych:

Canran y siaradwyr Cymraeg fesul rhanbarth etholiadol
Adran etholiadol% Siaradwyr Cymraeg
Cynwyd 68
Peniel 64
Llandrillo (Gorllewin) 55.6
Pentrecelyn 54.5
Melin y Wig 52.3
Bryn Saith Marchog 51.3
Gwyddelwern 50

Trefi’r Dyffryn

Mae gan dair o drefi’r Dyffryn (Dinbych, Rhuthun a Chorwen) ardaloedd sydd â chanrannau a niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt. Mae’r y trefi hyn felly yn rhai arwyddocaol iawn o ran cynllunio ar gyfer dyfodol yr iaith.

Yr hyn sy’n gyffredin i’r trefi hyn ydy’r ffaith fod siaradwyr Cymraeg yn tueddu i glystyru fwy-fwy mewn rhai rhannau penodol ohonynt gan olygu fod rhai rhannau yn fwy Cymraeg o ran iaith nag eraill.

Dinbych

Mae siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o fyw ar waelod Dinbych, i’r De a’r De Ddwyrain o’r ysgol uwchradd nag i fyny yn Ninbych Uchaf gyda gwahaniaeth mewn canrannau sydd 15 i 20% yn uwch (e.e.52.2%, 47.6%, 45.4%,43.4%,40% yn yr ardal ddeheuol o’u cymharu â chanrannau rhwng 15% a 27% i fyny yng nghanol y dre).

Rhuthun

Mae’r un patrwm i’w weld yma gyda chanrannau siaradwyr Cymraeg yn sylweddol uwch i’r De o Stryd Mwrog, Stryd Y Ffynnon a Stryd Y Rhos (e.e. 42.6%, 44.4%, 46.5%,47.4%, 50%, 52.9%, 53.7%) nag i’r Gogledd o’r isoglos (ardal) yma (21.2%, 21.7%,25.2%,28.2%, 31%, 31.6%). Mae’r cyrion i’r Gogledd o’r isoglos, fodd bynnag, ychydig yn uwch sy’n awgrymu fod siaradwyr Cymraeg, yn gyffredinol (yn union fel y gwelir yn Ninbych) yn hoffi byw allan o ganol y dref (37%, 37.1%, 38%, 38.6%.)

Corwen

Yng Nghorwen mae canran siaradwyr Cymraeg yn ardaloedd gorllewinol y dref (51.1% a  52.7%.) yn sylweddol uwch na’r ganran yn nwyrain y dref (35.5%).

Yn y tair tref hon ymddengys fod cysylltiad rhwng dosbarthiad daearyddol o siaradwyr Cymraeg ac argaeledd ysgol cyfrwng Cymraeg a bod plant felly yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg ar sail yr ardal y maent yn byw ynddi.

Newid mewn canran ers 2011

Adran etholiadol

% Siaradwyr Cymraeg 2011

% Siaradwyr Cymraeg 2021

Llandrillo

59.2

51.6

Efenechtyd

54.6

44.4

Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

51.2

50.3

Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern

48.3

43.8

Corwen

47.9

42.5

Rhuthun

41.7

37.9

Dinbich isaf

40.2

38.7

De Orllewin Y Rhyl

13.7

11.8

De Orllewin Prestatyn

13.7

14.0

Dwyrain Y Rhyl

13.0

11.4

Gorllewin Y Rhyl

12.7

10.7

Gogledd Prestatyn

12.6

12.3

Dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yn ôl oedran

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn gwahaniaethu’n fawr yn ôl oedran. Yn ôl Cyfrifiad 2021 roedd 37.3% o blant 3 i 15 oed yn gallu siarad Cymraeg yn Sir Ddinbych i lawr o 45.9 % yn 2011. Roedd y grŵp oed 16-19 hefyd yn gymharol uchel. Yn 2021 roedd yn 31.3%. Yn anffodus mae’r ddau ffigwr hwn yn debygol o fod yn annilys gan eu bod yn sylweddol uwch na chanran y plant oed ysgol sy’n derbyn addysg Gymraeg yn y sir (27%). Gwelwyd cwymp cyffelyb yn digwydd mewn llawer o siroedd dwyreiniol eraill rhwng y grwpiau oed hyn.

Nid oedd y newid hwn, fodd bynnag, yn gwymp yn niferoedd go iawn y plant ysgol sy’n medru siarad y Gymraeg. Y cyfan a ddigwyddodd oedd fod rhieni / gwarchodwyr y plant wedi bod yn fwy cywir yn 2021 nag yn y gorffennol wrth gofnodi gallu ieithyddol eu plant. Efallai eu bod wedi dechrau sylweddoli bellach nad ydy eu plant yn debygol o fod yn medru’r Gymraeg oni bai eu bod yn derbyn addysg Gymraeg.

Mewn gwirionedd mae’r nifer a’r ganran o blant oed ysgol a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2021 yn dal yn rhy uchel o’u cymharu â’r data swyddogol o faint o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg. (Mae nifer fechan iawn o blant sy’n medru’r Gymraeg yn mynychu ysgolion Saesneg, wrth gwrs, ond fyddai hyn ddim yn debygol o newid yr ystadegau cyffredinol yn sylweddol).

O graffu ar ddata’r cyfrifiad ar gyfer Sir Ddinbych (a siroedd Y Fflint a Wrecsam yn ogystal) gwelir yr un patrwm yn cael ei amlygu.

Cymharu nifer y siaradwyr Cymraeg fesul Sir rhwng 2011 a 2021
MesurSir DdinbychSir Y FflintSir Wrecsam
(A) Niferoedd 5 i 15 oed 2011 yn medru’r Gymraeg 5,340 6,950 5,270
(B) Niferoedd 5 i 15 oed 2021 yn medru’r Gymraeg 4,530 5,410 4,930
(C) Gwahaniaeth nifer -810 -1,540 -340
(CH) % 5 i 15 yn 2011 yn medru’r Gymraeg 45.9 36 31
(D) % 5 i 15 yn 2021 yn medru’r Gymraeg 37.3 27.4 27.6
(DD) % gwahaniaeth -8.6 -8.6 -3.4
(E) % mewn addysg Gymraeg (sef y ganran gywir) 27 6.9 15

Mae’r gwahaniaeth rhwng rhes E a rhes D yn Sir Ddinbych yn 10.3% (hynny ydy mae’r ffigwr 10% yn rhy uchel). Yn Siroedd Y Fflint a Wrecsam mae’r ganran a nodir yn y cyfrifiad yn 20.5% a 12.6% yn rhy uchel.

Mae’n debyg fod niferoedd a chanran go iawn y plant 5-15 yn Sir Ddinbych sy’n medru siarad Cymraeg wedi tyfu ychydig ers y cyfrifiad diwethaf ond fod y twf hwnnw yn cael ei guddio gan annilysrwydd sylfaenol yr ystadegau a geir yn y cyfrifiad sy’n dangos cwymp. 

O dderbyn annilysrwydd y data ar gyfer y grŵp oedran 5-15 ac 16-19 sylweddolir nad yw’r gostyngiad sylweddol ymddangosiadol a nodir yn y tabl isod rhwng canran y grwpiau oed hyn a’r grŵp oed 20-44 wedi digwydd. Serch hynny fe brofodd yr oed hwn ostyngiad o 300 o unigolion rhwng 2011 a 2021.

Cymharu nifer y siaradwyr Cymraeg fesul Sir rhwng 2011 a 2021
Grŵp oedran% siaradwyr Cymraeg 2011% siaradwyr Cymraeg 2021Nifer siaradwyr Cymraeg 2011Nifer siaradwyr Cymraeg 2021

Pawb dros 3 oed

24.6

20.6

22,240

20,940

3 i 4 oed

27.6

23.1

580

470

5 i 15 oed

45.9

37.3

5,340

4,530

16 i 19 oed

29.9

31.3

1,440

1,260

20 i 44 oed

22.3

22.4

5,800

5,500

45 i 64 oed

18.5

18.1

4,860

4,820

65 i 74 oed

19.4

16.5

2,050

2,090

Dros 75 oed

23.7

20.6

2,160

2,270

O graffu’n feirniadol ar yr ystadegau gwelir na phrofwyd cwymp mawr go iawn yn niferoedd a chanrannau siaradwyr Cymraeg Sir Ddinbych yn gyffredinol rhwng 2011 a 2021 gan fod y cwymp ymddangosiadol hwnnw wedi digwydd gan fwyaf oherwydd y newid yn y niferoedd a’r canrannau a gofnodwyd o fewn y grwpiau oed 3 i 19 (1,110 allan o 1,290) sydd, fel y nodwyd, yn ystadegyn annilys.

Ar ôl y cyfnod oed 45+ mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn aros yn gymharol gyson serch eu bod nhw’n yn ganran lai o’r grwpiau oed, mwy na thebyg oherwydd newid demograffig gyda phobl hŷn ddi-Gymraeg yn symud i’r sir.

Mae gwaith o ddiweddaru’r ystadegau’n digwydd yn barhaus yn y Proffil Iaith gan Menter Iaith Sir Ddinbych (gwefan allanol).