Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: thema 3 - busnes a’r economi

Y weledigaeth

Cydnabod pwysigrwydd economi ffyniannus i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Canlyniad a ddymunir

Dylai’r Cyngor Sir a phartneriaid datblygu economaidd eraill gydnabod pwysigrwydd dyfodol yr iaith Gymraeg i gymunedau ffyniannus a dylid cynhyrchu strategaethau er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn enwedig yn cael cyfle i fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol a chyfrannu at eu ffyniant.

Dangosyddion

  • Nifer y busnesau sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi a ddarperir yn ddwyieithog.
  • Nifer yr ymweliadau â'r dudalen Cymraeg mewn Busnes

Cefndir economaidd a chymdeithasol

Yn ôl Cyfrifiad 2021 roedd 95,800 o bobl yn byw yn Sir Ddinbych. Mae economi Sir Ddinbych yn amrywiol iawn gyda dros 3600 o fentrau wedi'u lleoli yn y sir. Yn y gogledd, mae trefi fel y Rhyl a Phrestatyn yn ganolfannau allweddol ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a thwristiaeth. Mae'r gogledd hefyd yn gartref i Barc Busnes Llanelwy, sy'n gartref i nifer o gwmnïau technolegol pwysig. Yn y de, mae'r ardal wledig yn rhwydwaith o bentrefi bach traddodiadol sy'n gyrchfannau twristiaeth pwysig. Mae harddwch naturiol y tirlun, sydd wedi ei ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn denu ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu’n cael eu cyflogi mewn Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (25%), Cyfanwerthu a Manwerthu (15%), Addysg (9%) ac Adeiladu (9%). Y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a gweinyddu, yw’r cyflogwr mwyaf yn y sir, gyda chyfran uwch o’r boblogaeth yn gweithio yn y sector hon nac mewn unrhyw ardal awdurdod lleol arall yn y DU.

Mae swyddi yn y sector busnes yn tueddu i fod mewn sectorau fel manwerthu, hamdden a thwristiaeth, ac yn gyffredinol mae'r rhain yn swyddi tymhorol, cyflog isel.

Camau gweithredu a chyfrifoldebau

Cam gweithredu: Datblygu tudalen we Cymraeg mewn Busnes ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Ebrill 2026


Cam gweithredu: Mynd ati i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy Fwletin Busnes a gyhoeddir yn fisol i’r gymuned fusnes.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Codi Ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth hyfforddiant Cymraeg i Oedolion sy'n gweithio yn y gymuned fusnes.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Comisiynu hyfforddiant iaith Gymraeg i fusnesau a ddarperir yn ddwyieithog.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth


Cam gweithredu: Creu llyfryn Cymraeg mewn Busnes i amlygu arfer gorau wrth hyrwyddo’r arlwy Cymraeg ymhlith y gymuned fusnes.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Ebrill 2026


Cam gweithredu: Codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg fel sgil ychwanegol ac annog busnesau i gynyddu eu defnydd o'r iaith.

Cyfrifoldeb: Datblygiad Economaidd a Busnes

Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth