Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: thema 2 - y gymuned
Y weledigaeth
Mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yng nghymunedau Sir Ddinbych.
Canlyniadau a ddymunir
- Hyrwyddo mwy ar wasanaethau’r cyngor a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau cymdeithasol.
- Gwell dealltwriaeth o effeithiau polisïau a phenderfyniadau’r Cyngor ar yr iaith Gymraeg a manteision dwyieithrwydd mewn cymunedau.
Dangosyddion
- Cynnydd yn nifer o bobl sy’n symud i Sir Ddinbych sy’n cael mynediad at wybodaeth ynglŷn â dwyieithrwydd.
- Nifer y penderfyniadau polisi’r cyngor lle ystyriwyd effaith ar yr iaith Gymraeg.
Hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn cymunedau
Rhaid i'r iaith Gymraeg fod yn iaith fyw, lle mae'n arferol i bobl gael dewis pa iaith y maent yn ei defnyddio; lle maent yn cael cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau yn naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg a bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel iaith fyw drwy ein cyswllt gyda’n trigolion.
At y diben hwn, bydd y Cyngor yn sicrhau fod ei holl gyfathrebu â thrigolion yn ddwyieithog; yn gywir ei ystyr, a bydd gwasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hyrwyddo drwy gylchlythyr trigolion, gwefan y Cyngor a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn gweithio gydag oedolion sy’n ddysgwyr i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu a chyfoethogi sgiliau iaith Gymraeg drwy gydweithio effeithiol.
Byddwn hefyd yn cryfhau’n cysylltiadau gwaith gyda sefydliadau eraill sy'n ymwneud â datblygu’r iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych, gan sicrhau fod gan bobl ddealltwriaeth gadarn o fanteision dwyieithrwydd, yr angen i gyfoethogi diwylliant dwyieithog y sir ac i ddarparu cyfleoedd i'r iaith Gymraeg ffynnu'n organig.
Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Mae Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn darparu'r gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus statudol a'r gwasanaeth wyneb yn wyneb ar gyfer cwsmeriaid ar ran y Cyngor o wyth llyfrgell yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen. Mae Gwasanaeth Llyfrgell Gartref yn darparu gwasanaeth wedi'i deilwra i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i'w llyfrgell leol oherwydd gwendid, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. Mae llyfrgelloedd hefyd yn darparu gwasanaeth digidol 24/7 ar gyfer lawrlwytho llyfrau, cael gafael ar wybodaeth ac archebu llyfrau corfforol; a darparu cyfleusterau i bobl gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth a chyngor yn eu cymuned leol.
Mae staff ddwyieithog ar gael ar y rheng flaen ym mhob llyfrgell i gynnig gwasanaeth Cymraeg, ac mewn sawl cymuned mae’n un lleoliad lle gall pobl fynd am sgwrs Gymraeg.
Darperir stoc gynhwysfawr o lyfrau Cymraeg ar gyfer plant ac oedolion ym mhob llyfrgell, i’w benthyg yn rhad ac ddim. I sicrhau cydraddoldeb mynediad, y llyfrgell leol yw’r unig le i gaffael llyfrau print bras a llyfrau llafar ar ddisg yn y Gymraeg. Cynigir hefyd lyfrau ar gyfer pobl sy’n dysgu’r Gymraeg ac mae gan Sir Ddinbych hefyd gasgliad cadw helaeth o lyfrau a chylchgronnau Cymraeg. Mae’r catalog arlein ac ap Pori yn ddwyieithog ac yn galluogi cwsmeriaid i reoli eu cyfrifon ac archebu llyfrau arlein.
Mae’r ddarpariaeth o adnoddau digidol Cymraeg, yn elyfrau, elyfrau llafar ac egylchgronnau, yn cynyddu yn gyson diolch i ymdrechion cydweithredol y sector llyfrgelloedd ar draws Cymru mewn cydweithrediad â’r Cyngor Llyfrau. Mae rhain ar gael i’w lawrlwytho am ddim i aelodau llyfrgell.
Darperir rhaglen o weithgaredd dwyieithog i hyrwyddo darllen gan gynnwys Sialens Ddarllen yr Haf, grwpiau darllen, a digwyddiadau diwylliannol. Mae darpariaeth Dechrau Da ar gyfer plant 0-3 oed yn gyflwyno llawer o deuluoedd i’r Gymraeg am y tro cyntaf ac yn eu hannog i fagu eu plant yn ddwyieithog ac ystyried gofal ac addysg Gymraeg.
Polisi a gwneud penderfyniadau
Mae nifer o elfennau eraill o waith y Cyngor sy'n cael effaith bosib ar yr iaith Gymraeg.
Un o elfennau allweddol Safonau’r Iaith Gymraeg yw'r effeithiau y gallai unrhyw bolisi neu benderfyniad ei gael ar yr iaith Gymraeg, boed yn gadarnhaol, yn niwtral neu'n negyddol. Byddwn yn sicrhau bod pob gwasanaeth yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau, yn cynnal asesiadau effaith ar yr iaith Gymraeg ble bo'n addas a nodi cyfleoedd i liniaru effeithiau negyddol unrhyw benderfyniad.
Bydd y Cyngor yn ystyried defnydd yr iaith Gymraeg mewn meysydd gwneud penderfyniadau polisi allweddol, a Chynllunio fydd un o’r prif feysydd hynny o’n gwaith.
Cyhoeddod y Cyngor bolisi ar ddyfarnu grantiau (Safon 94) a pholisi gweithredu’r Gymraeg yn fewnol (Safon 98) yn ystod 2023 i gydymffurfio â Safonau’r Gymreg. Mae’r polisi ar ddyfarnu grantiau wedi cael ei ddatblygu er mwyn rhoi cymorth i swyddogion i gydymffurfio gofynion Safonau’r Gymraeg wrth gyhoeddi grantiau ar ran Cyngor Sir. Nod y polisi yw cynorthwyo swyddogion i sicrhau bod ystyriaethau o’r Gymraeg yn elfen integredig o'r broses grantiau yng Nghyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ymwybodol o'u dyletswyddau wrth ddod i benderfyniadau.
Mae gofyn i bob aelod o staff y Cyngor gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, sy’n deillio o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a chyda’r polisi gweithredu’r Gymraeg yn fewnol ceir manylion pellach amdanynt. Bwriad Safonau’r Gymraeg yw ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae'r polisi hwn yn nodi sut y mae’r Cyngor yn bwriadu gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru ac hefyd yn fewnol yn y Cyngor.
Cynllunio
Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych yn darparu gweledigaeth o safbwynt sut gall datblygiadau newydd a defnydd o dir ymdrin â'r heriau a wyneba'r sir dros y degawd nesaf. Fel y nodwyd gan y Cyngor Sir yn ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLL) - 'Drwy ddarparu fframwaith cydgysylltiedig i benderfynu ble, pan a faint o ddatblygiadau newydd y gellir eu datblygu, CDLL Sir Ddinbych, drwy egwyddorion, yn anelu at wneud y sir yn wyrddach, yn decach ac yn fwy llewyrchus gyda chydnabyddiaeth bod yr iaith a diwylliant yn cael eu cynnal a'u diogelu.' Polisi Cynllunio Cymru ynghyd â Chymru'r Dyfodol, Mae Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gosod polisïau defnydd tir Llywodraeth Cymru. Mae rhai dogfennau'n cael eu hategu gan ganllawiau ar ffurf Nodiadau Cyngor Technegol (TANs). Mae TAN 20 yn darparu canllawiau ar y Gymraeg a chynllunio defnydd tir.
Fframwaith ‘Mwy na Geiriau’
Mae iaith yn bwysig yn y maes iechyd a gofal gan mai cyfathrebu yw sail y gallu i ymateb i anghenion unigolion. Mae iaith yn elfen allweddol o ofal, yn arbennig wrth drafod pryderon sensitif ac emosiynol.
Mae ‘Mwy na Geiriau’ yn canolbwyntio ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yma’n Sir Ddinbych, rydym yn parhau i ystyried camau a fydd yn sicrhau ein bod yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl gael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i ddarparu a datblygu gwasanaethau Cymraeg, gan gynnwys recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg, sicrhau bod y Cynnig Rhagweithiol yn amlwg o’r pwynt cyswllt cyntaf a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio mewn technoleg. Bydd y tîm datblygu'r gweithlu hefyd yn parhau i gynnig cyfleoedd i staff ddysgu Cymraeg a datblygu ymwybyddiaeth o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Camau gweithredu a chyfrifoldebau
Cam gweithredu: Ystyried effaith gwneud polisi/penderfyniadau ar yr iaith Gymraeg a chymunedau.
Cyfrifoldeb: Holl wasanaethau’r Cyngor
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Bydd ein llyfrgelloedd cyhoeddus yn daparu mynediad at ddeunydd darllen hamdden ac addysgiadol Cymraeg yn lleol o fewn cymunedau, yn rhad ac am ddim, gan gynnwys llyfrau print, print bras, llyfrau llafar, e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau, e-gronnau a phapurau.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Cyd weithio fel sector yn genedlaethol i ehangu’r ddarpariaeth o adnoddau darllen digidol yn y Gymraeg sydd ar gael yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Bydd ein llyfrgelloedd yn darparu cynlluniau Darllen yn Well sy’n cynnig llyfrau Cymraeg i gynorthwyo gyda chyflyrau iechyd meddwl a dementia, i oedolion a phlant, gan ehangu i gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ifanc.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Cydweithio yn genedlaethol i ddatblygu a darparu cynlluniau pellach megis Ffrindiau Darllen ac EmpathyLab.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Hyrwyddo’r defnydd o’r ap ddwyieithog Pori (ap cenedlaethol llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru) sy’n cynnig mynediad i gyfrif personol pob aelod llyfrgell er mwyn archebu ac adnewyddu llyfrau, cyrchu ac archebu llyfrau print a digidol, dod o hyd i’w llyfrgell agosaf, a gwirio argaeledd unrhyw lyfr Cymraeg.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Darparu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i blant ac oedolion sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig (e.e. grwpiau darllen, Sialens Ddarllen yr Haf, lansiadau ac ymweliadau awduron) gan gynnwys mewn partneriaeth ag asiantaethau a mudiadau lleol a chenedlaethol.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Cyflwyno’r Gymraeg i rieni plant 0 i 3 oed trwy gyfrwng Amseroedd Rhigwm Dechrau Da mewn llyfrgelloedd ac yn ddigidol.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Bydd ein Siopau Un Alwad yn darparu cymorth a chyngor am wasanaethau’r Cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein cymunedau lleol.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Un o amcanion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw cefnogi a gwella'r Iaith Gymraeg. Wrth ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd bydd yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r prosesau asesu safle cysylltiedig yn asesu effeithiau strategaeth ofodol, polisïau a dyraniadau’r cynllun ar yr iaith Gymraeg. Lle bo tystiolaeth yn dangos effaith andwyol, bydd diwygiadau i'r strategaeth neu fesurau lliniaru yn cael eu nodi..
Cyfrifoldeb: Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
Erbyn pryd? - Bydd yr asesiad yn parhau hyd nes y bydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd yn cael ei fabwysiadu gan Gyngor Sir Ddinbych. Unwaith y bydd y CDLl Newydd wedi'i fabwysiadu bydd ei bolisïau yn cynorthwyo i gefnogi a gwella'r Iaith Gymraeg..
Cam gweithredu: Marchnata mwy ar y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yn y gymuned.
Cyfrifoldeb: Tîm cyfathrebu a’r Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Presenoldeb mewn digwyddiadau sirol allweddol er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Cyfrifoldeb: Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Cyd-hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol partneriaid.
Cyfrifoldeb: Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Hwyluso a chefnogi digwyddiadau o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.
Cyfrifoldeb: Holl wasanaethau’r Cyngor a’r Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Rhannu arferion gorau a dull galluogi ar draws y system, gan gynnwys sicrhau ymwbyddiaeth o’r cynnig rhagweithiol fel bod y cynnig yn rhan annatod o’r broses o ddarparu gwasanaethau o safon.
Cyfrifoldeb: Gofal Cymdeithasol
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Cydweithio â Rhaglen ‘Cymraeg i Blant’ sy'n cynnal grwpiau cefnogi i rieni i godi ymwybyddiaeth o fanteision addysg Gymraeg a phwysigrwydd cyflwyno'r Gymraeg yn gynnar i'w plant.
Cyfrifoldeb: Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth