Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: y Gymraeg yn flaenoriaeth corfforaethol

Rydym yn chwarae ein rhan i gyflawni miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, drwy ddarparu’r Strategaeth Iaith Gymraeg gyda phartneriaid a chymunedau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol, ac ar bob cam o’u bywydau
  • Cefnogi plant a theuluoedd yn ystod eu blynyddoedd cynnar i ddatblygu hyder o ran defnyddio’r Gymraeg
  • Cefnogi’r defnydd ehangach o’r Gymraeg a dathlu’r diwylliant Cymreig yn y gymuned, gan gynnwys lleoliadau gwaith
  • Datblygu diwylliant ac ethos sy’n annog defnydd dyddiol o’r Gymraeg gan aelodau etholedig a staff y cyngor, a darparu hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol i wella eu hyder yn defnyddio’r Gymraeg
  • Datblygu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan Gymraeg yn Llanelwy er lles y gymuned ehangach

Casgliad Adroddiad Sicrwydd Strategaeth Iaith 2017 i 2022

Comisiynwyd IAITH: y ganolfan cynllunio iaith gan Gyngor Sir Ddinbych i baratoi’r adroddiad sicrwydd hwn.

Dyma’r adroddiad sicrwydd cyntaf sydd wedi’i baratoi ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych i fodloni gofynion Safonau’r Gymraeg. Gan gadw hyn mewn cof, mae’n ddisgwyliedig bydd mireinio ar y broses o lunio’r strategaeth a’i werthuso gydag iteriadau olynol. Trafoda nifer o’r argymhellion y cyd-destun hyn, gan dynnu yn helaeth ar ddogfennau cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar lunio ac asesu cyrhaeddiad y strategaeth.

Rhaid nodi bod cyfnod y strategaeth iaith wedi’i effeithio gan y pandemig COVID-19. Gwelir effaith y pandemig ar weithredu’r strategaeth, ac yn y gweithgareddau cysylltiedig. Tra’n cynnig nifer o heriau (e.e. o ran y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol) roedd hefyd yn creu yr angen i weithredu’n hyblyg ac yn greadigol ac mae tystiolaeth o hyn yn yr adroddiad hwn.

Daw yn amlwg yn yr adroddiad y pwysigrwydd o weithio o fewn y tirlun polisi cenedlaethol a lleol, ac i fanteisio ar y cyfleoedd i gydweithio mewn perthynas a’r CSCA, Strategaeth Cymraeg 2050, Deddf Llesiant 2015, Mwy na Geiriau, ac ati. Mae’n amlwg bod gwaith rhai o adrannau Cyngor Sir Ddinbych wedi’i yrru gan y strategaethau hyn ac felly’n mae’n hanfodol ystyried hyn wrth lunio’r strategaeth newydd. Gwelwyd bod y strategaeth yn eistedd ochr yn ochr o fewn y tirlun polisi yn ystod y cyfnod hwn.

Efallai mae strategaeth Cymraeg 2050 ddylai fod y prif ystyriaeth wrth lunio’r strategaeth newydd, gan osod blaenoriaeth ar gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ogystal. Mae argymhellion 1, 2, a 3 yn cynnig arweiniad ar hyn mewn perthynas â gosod targed i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg.  Mae argymhelliad 7 yn nodi’r angen i sicrhau bod y camau gweithredu yn cyd-fynd gyda’r weledigaeth ar gyfer y strategaeth, gyda lle i fod yn fwy uchelgeisiol wrth sicrhau bod y camau gweithredu yn cyfrannu’n eglur i gyrraedd y targed o ran cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg (argymhelliad 5). Mae argymhellion 5, 8, 9, 10, ac 11 oll yn ymwneud gyda gweithrediad a mesur perfformiad y strategaeth. Ceir trafodaeth o argymhelliad 12 ym mhwynt 2 isod.

O’r adroddiad hwn, ac o ystyried canllawiau Comisiynydd y Gymraeg, daw dwy her benodol ar gyfer cyfnod y strategaeth nesaf:

1. Datblygu gwaith sefydliadau partneriaeth wrth iddynt gael perchnogaeth dros wireddu’r strategaeth yn ogystal

Nodwedd amlwg ym mwyafrif helaeth y strategaethau 5 mlynedd yw cydnabyddiaeth o bwysigrwydd partneriaethau mewnol ac allanol i wireddu’r gwaith. Mae dogfen gyngor Comisiynydd y Gymraeg yn ei wneud yn glir bod angen gweithio’n agos â phartneriaid er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y strategaeth, gyda chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol yn golygu bydd pawb yn rhannu’r baich ac yn gweithio tuag at yr un nod. Cydran allweddol yn hyn o beth yw’r Fforwm Iaith.

Nid yw’n eglur pa weithgareddau o’r strategaeth sydd wedi’u cyflawni gan sefydliadau heblaw Cyngor Sir Ddinbych. Yn hyn o beth, dylai’r strategaeth newydd ddilyn cyngor Comisiynydd y Gymraeg ac arfer dda drwy sicrhau bod y Fforwm Iaith (ac aelodau’r Fforwm) yn gweithredu i adfywio’r iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych. Dylai’r Fforwm Iaith hwyluso cydweithio gan bartneriaid a sicrhau bod y strategaeth iaith newydd ar waith ar draws partneriaid y Fforwm Iaith. Gall hyn hefyd gynnig y cyfle i greu cysylltiadau rhanbarthol lle’n briodol.

2. Datblygu’r defnydd o ddulliau i fesur perfformiad a chyrhaeddiad y strategaeth, yn ogystal i’r gweithdrefnau i werthuso gweithrediad y strategaeth (gweler hefyd argymhelliad 12)

Ceir arweiniad gan ddogfennau cyngor Comisiynydd y Gymraeg mae da o beth byddai ystyried yr ymagwedd ehangach ar gyfer gwerthuso effaith y strategaeth yn ei gyfanrwydd neu elfennau ohoni. Daw hyn yn ogystal i’r gwaith o werthuso gweithrediad y strategaeth, ac mae’n cynnwys yr angen i werthuso effaith y strategaeth. Dylid ystyried hyn wrth lunio’r strategaeth newydd, yn rhannol er mwyn hwyluso’r broses o bennu dangosyddion ac i fwydo i mewn i gynllun gweithredu’r strategaeth ond hefyd i sicrhau bod y gwaith o geisio mesur traweffaith y strategaeth yn cael ei ystyried a’i gynllunio o’r cychwyn cyntaf. Gweler ddogfen gyngor Comisiynydd y Gymraeg am arweiniad ar fethodolegau i fesur perfformiad a chyrhaeddiad y strategaethau iaith.

Argymhellion

  • Argymhelliad 1: sefydlu gwaelodlin pendant i osod targed i gynyddu’r nifer/canran o siaradwyr Cymraeg
  • Argymhelliad 2: gosod targed hirdymor i gynyddu’r nifer /canran sy’n medru siarad Cymraeg
  • Argymhelliad 3: gosod targed i gynyddu’r nifer/canran sy’n medru siarad Cymraeg sy’n gyson ag amcanion strategaeth Cymraeg 2050
  • Argymhelliad 4: cynnwys datganiad sy’n esbonio sut fwriedir cyrraedd y darged o ran cynyddu nifer/canran sy’n medru siarad Cymraeg
  • Argymhelliad 5: hwyluso yr adroddiadau monitro er mwyn ateb gofynion Safon 146
  • Argymhelliad 6: ystyried pa weithgareddau sy’n berthnasol i Safon 146 er mwyn symleiddio’r broses monitor
  • Argymhelliad 7: sicrhau bod y pwyntiau gweithredu yn cyd-fynd gyda’r weledigaeth a’r canlyniadau a ddymunir
  • Argymhelliad 8: sicrhau bod modd monitro cynnydd y pwyntiau gweithredu
  • Argymhelliad 9: sicrhau bod y dangosyddion perfformiad a’r broses o fonitro ac adrodd ar y dangosyddion perfformiad yn galluogi mesur perfformiad yn erbyn amcanion y strategaeth
  • Argymhelliad 10: sicrhau bod llwyddiannau neu heriau penodol yn cael eu cofnodi yn rheolaidd trwy gyfnod y strategaeth
  • Argymhelliad 11: ystyried penodi swyddog penodol sy’n gyfrifol am weithredu’r strategaeth iaith o fewn bob Gwasanaeth
  • Argymhelliad 12: bod yn fwy uchelgeisiol wrth fesur traweffaith y strategaeth