Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: monitro a rheoleiddio

Strategaeth gorfforaethol yw Strategaeth yr Iaith Gymraeg a chyfuniad yw’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig o’r holl ddulliau gweithredu sy'n ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych.  O ganlyniad, bydd nifer o wahanol adrannau’r Cyngor yn rhoi’r cynllun gweithredu ar waith, yn ogystal â rhai sefydliadau partner. 

Bydd pob cam gweithredu yn y cynllun gweithredu wedi ei gynnwys yng nghynllun busnes y gwasanaeth perthnasol a bydd yr aelod arweiniol a’r pennaeth gwasanaeth yn eu monitro. Yr arweinydd cyffredinol ar y Strategaeth Iaith Gymraeg yw’r aelod arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth.

Bydd gan bwyllgorau archwilio’r Cyngor rôl bwysig wrth fonitro’r Strategaeth, fel y bydd gan y Pwyllgor Llywio’r Gymraeg o fewn Sir Ddinbych.  Byddwn yn adolygu ein hamcanion a chamau gweithredu yn flynyddol ac rydym yn derbyn na fydd popeth rydym yn gobeithio ei wneud yn bosibl wrth i amgylchiadau newid. Byddwn bob amser yn dryloyw am unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud, ac yn adrodd ar unrhyw newidiadau a’r rhesymwaith y tu ôl iddynt.

Mae gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad cryf ar waith a fydd yn berthnasol i fonitro ac adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Bydd hyn yn cynnwys fframwaith perfformiad cadarn sydd yn arddangos dangosyddion, mesuryddion perfformiad a gweithgareddau gyda thargedau clir a disgwyliadau a fydd yn cyfateb i’r uchelgais sydd gennym ar gyfer ein cymunedau.