Strategaeth Iaith Gymraeg 2023 i 2028: thema 1 - plant a phobl Ifanc
Y weledigaeth
- Y bydd 40% o’r holl ddisgyblion saith mlwydd oed wedi mynychu addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2032. Bydd cael sylfaen gadarn o ran siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn cynyddu dewis y disgybl a’r hyder i ddilyn llwybr cwbl ddwyieithog mewn addysg ac ymlaen i gyflogaeth ac i’r gymuned ehangach.
- Cynyddu defydd o’r iaith Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc drwy gael mynediad at addysg a gweithgareddau cymunedol cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol yn Gymraeg.
Canlyniad a ddymunir
- Cyrhaeddiad gwell yn y Gymraeg ac mewn pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob cyfnod allweddol ym mhob ysgol.
- 32% o ddisgyblion blwyddyn 1 yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2027.
- 24% o fyfyrwyr 14 - 16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2027.
- Mwy o siaradwyr Cymraeg dan 21 yn Sir Ddinbych yng Nghyfrifiad 2031
- Mwy o weithgareddau hamdden a ieuenctid yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Dangosyddion
- Mwy o blant meithrin / tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mwy o blant dosbarth derbyn / pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
- Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr Ysgol
- Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
- Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg
- Cynnydd yn y nifer y sesiynau gwaith ieuenctid dwyieithog.
- Cynnydd yn nifer y staff y gwasanaeth ieuenctid sy’n siarad/dysgu Cymraeg.
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Erbyn Medi 2032 dyhead Cyngor Sir Ddinbych yw y bydd 40% o’r holl ddisgyblion saith mlwydd oed wedi mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd cael sylfaen gadarn o ran siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn cynyddu dewis y disgybl a’r hyder i ddilyn llwybr cwbl ddwyieithog mewn addysg ac ymlaen i gyflogaeth ac i’r gymuned ehangach.
Ym Medi 2020 roedd 28% o ddisgyblion Blwyddyn 2 yn ysgolion Sir Ddinbych yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Erbyn 2032 dyhead Cyngor Sir Ddinbych, drwy ymgynghoriad llawn gyda budd-ddeiliaid, yw mynd heibio’r targed isaf o 37% a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o fod yn nes at y targed uwch o 41%.
Yn y cyfnod rhwng 2010 a 2020, cynyddodd y ganran a nifer y disgyblion a oedd yn derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych. Mae hyn wedi digwydd yr un pryd â buddsoddiad yn ystâd yr ysgolion a gweithredu cynigion adrefnu ysgolion. Ar hyn o bryd mae yna leoedd gwag mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a allai ddarparu ar gyfer 30% o’r holl ddisgyblion Blwyddyn 1 yn Sir Ddinbych, er nad yw wedi ei ddosbarthu’n gyfartal drwy’r Sir. Mewn rhai ardaloedd mae yna lai na 4% o leoedd gwag ar gael ac felly fe fydd twf pellach yn golygu fod angen gwneud newidiadau.
Yn Sir Ddinbych cynigir bodloni’r targed ar gyfer twf drwy gynyddu capasiti Ysgolion cyfrwng Cymraeg a newid dynodiad iaith ysgolion cyfrwng Saesneg. Canlyniad hyn fydd cynnydd graddol yn argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg dros gyfnod y cynllun hwn, sef 10 mlynedd.
Y Gwasanaeth Ieuenctid
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn cynnal prosiectau a gweithgareddau amrywiol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn canolfannau ieuenctid ac mewn ysgolion a neuaddau cymunedol ar draws y sir. Mae'r gwasanaeth yn cynnal gweithgareddau sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth a chynyddu eu hyder a'u hunan-barch. Mae'r gweithgareddau, sydd am ddim, yn cynnwys chwaraeon, celf a chrefft, gemau, tripiau ac ymweliadau. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu rhaglenni addysgiadol o safbwynt iechyd a lles, sgiliau byw'n annibynnol a dinasyddiaeth gymunedol a rheoli arian.
Er mwyn i’r Gymraeg gael ei gweld fel iaith gymunedol fyw, mae’n bwysig dangos i bobl ifanc yn arbennig ei bod yn bosibl defnyddio’r iaith Gymraeg y tu allan i strwythurau ffurfiol addysg a’i bod yn iaith sy’n cyfoethogi eu bywyd bob dydd. At y diben hwnnw, mae'n bwysig bod Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor Sir yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gwneud hyn trwy amrywiaeth gyfoethog o weithgareddau a rhaglenni a ddarperir yn ddwyieithog ar draws y sir. Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn recriwtio, hyfforddi ac yn defnyddio gweithwyr ieuenctid iaith gyntaf ac yn hyrwyddo hyfforddiant a datblygiad sgiliau iaith Cymraeg ar draws yr holl staff ac aelodau gwirfoddol. Yn ogystal, maen nhw’n rhoi Cytundeb Lefel Gwasanaeth Blynyddol i’r Urdd i gyflogi aelod o staff sydd yn cefnogi’r Ysgolion Uwchradd ac yn cynnal clybiau Cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae gwasanaethau Hamdden y Cyngor bellach yn cael eu darparu gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd) – Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol (LATC) sy'n eiddo i'r Cyngor. Nod HSDd yw darparu cyfleoedd hamdden hygyrch o ansawdd uchel sy'n denu lefelau uchel o gyfranogiad ac yn gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych. Mae HSDd yn darparu sesiynau nofio a ffitrwydd dwyieithog ac mae gwaith yn parhau i wella eu cynnig cyfredol, gyda chefnogaeth eu Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyfathrebu a Chyfryngau Cymraeg a benodwyd yn ddiweddar. Bydd HSDd yn cynnal archwiliad o'r Gymraeg a'r safonau cysylltiedig yn ystod y flwyddyn 2023/24, gyda'r nod o adeiladu ar arfer da sydd eisoes ar waith yn y cwmni o ran defnyddio ac argaeledd y Gymraeg.
Fforwm Iaith Gymraeg Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid, fel rhan o fforwm sirol sy'n ystyried y defnydd o Gymraeg mewn gweithgareddau ar hyd a lled y sir. Mae cymaint o asiantaethau sy’n gweithredu’n lleol sy’n rhannu’r un blaenoriaethau â ni a chamgymeriad fyddai peidio cydlynu ein hymdrechion a manteisio ar adnoddau ac arbenigedd ein gilydd i gyflawni’n un nod sef cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn Sir Ddinbych.
Aelodau cyfredol Fforwm Iaith Gymraeg Sir Ddinbych yw:
- Menter Iaith Sir Ddinbych
- Cyngor Sir Ddinbych
- Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych
- Yr Urdd
- Mudiad Meithrin
- Cymraeg i Blant
- Merched y Wawr
- Clybiau Ffermwyr Ifanc
- Popeth Cymraeg
- Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru
- Coleg Cambria
Camau gweithredu a chyfrifoldebau
Cam gweithredu: Cwblhau cyfleusterau gofal plant newydd ar yr un safle ag Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl ac Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, gan sicrhau digon o gyfleusterau.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Cynyddu’r nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael bob blwyddyn yn Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen i 30 drwy fuddsoddiad cyfalaf.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Gweithio gyda ysgolion cyfrwng Saesneg i newid eu dynodiad ieithyddol er mwyn sicrhau cynnydd o 5% yn y ganran o ddisgyblion blwyddyn 1 sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Gweithio â phartneriaid i sicrhau twf yn nifer y staff sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu Cymraeg fel pwnc.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Bydd y Cyngor Sir yn cynyddu'r argaeledd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant i’r staff i gynyddu eu sgiliau iaith a'u hyder yn y Gymraeg ac i hyrwyddo recriwtio mwy o staff a gwirfoddolwyr dwyieithog yn y dyfodol.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Ieuenctid
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Bydd y Cyngor Sir yn parhau i ddatblygu'r bartneriaeth gyda'r Urdd a phartneriaid y Fforwm Iaith Gymraeg er mwyn ehangu’r gweithgareddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i bobl ifanc Sir Ddinbych.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Ieuenctid / Fforwm Iaith Gymraeg Sirol
Erbyn pryd? - Adolygu ar ddiwedd cyfnod y strategaeth
Cam gweithredu: Bydd gan y Cyngor Sir Bencampwr yr Iaith Gymraeg o fewn Gwasanaeth Ieuenctid i gefnogi'r staff i wreiddio mwy o Gymraeg achlysurol yn ein sesiynau ac i greu gweithgareddau i ddatblygu hyder pobl ifanc wrth ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad cymdeithasol ac addysg anffurfiol.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Ieuenctid
Erbyn pryd? - Ebrill 2028
Cam gweithredu: Dylunio a chyhoeddi llyfryn i hyrwyddo addysg Gymraeg a byw yn ddwyieithog yn Sir Ddinbych.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg / Fforwm Iaith Gymraeg Sirol / Tîm Cyfathrebu a Marchnata
Erbyn pryd? - Ionawr 2024
Cam gweithredu: Creu tudalen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i gyd fynd â’r llyfryn uchod.
Cyfrifoldeb: Gwasanaethau Addysg / Tîm Cyfathrebu a Marchnata
Erbyn pryd? - Ionawr 2024
Cam gweithredu: Archwilio’r galw am wersi (nofio / dosbarthiadau ffitrwydd) trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi cynlluniau mewn lle i ddarparu’r gwersi hynny lle mae’r galw. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda’r Urdd i gyflawni hyn.
Cyfrifoldeb: Hamdden Sir Ddinbych cyf
Erbyn pryd? - Ebrill 2025
Cam gweithredu: Hyfforddi mwy o hyfforddwyr dwyieithog mewn amrywiaeth o chwaraeon i allu cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfrifoldeb: Hamdden Sir Ddinbych cyf
Erbyn pryd? - Mawrth 2028
Cam gweithredu: Mabwysiadu Pencampwyr Iaith Gymraeg ym mhob Canolfan Hamdden i fod yn gyfrifol am hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu ethos Gymreig.
Cyfrifoldeb: Hamdden Sir Ddinbych cyf
Erbyn pryd? - Mawrth 2024
Cam gweithredu: Cefnogi staff gweinyddol a rheng flaen sy’n gallu siarad/dysgu Cymraeg o fewn y gwasanaeth hamdden i ddatblygu eu sgiliau ymhellach er mwyn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog cyflawn.
Cyfrifoldeb: Hamdden Sir Ddinbych cyf
Erbyn pryd? - Mawrth 2027