Sefydlodd Deddf Yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor fod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd cyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Rhoddodd y Ddeddf ddyletswydd ar y sector gyhoeddus i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd.
Rhoddodd Mesur Y Gymraeg (Cymru) 2011 statws swyddogol i’r Iaith Gymraeg, a chrewyd rôl Comisiynydd y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn rhywbeth mae’r Cyngor yn ei gefnogi ac adlewyrchir hyn yn y cynlluniau gweithredu o fewn y strategaeth hon.
Mae gan y Comisiynydd gyfrifoldeb i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r iaith Gymraeg, gydag egwyddor allweddol y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Mae gan y Comisiynydd hefyd bwerau i ymchwilio unrhyw gorff cyhoeddus am beidio cydymffurfio â’r safonau. Cyflwynwyd y Safonau yn Sir Ddinbych yn gynnar ym mis Mawrth 2016 ac fe wnaethant ddisodli’r Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol.