Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae cynllun strategol y cyngor ar gyfer darpariaeth o 2022 i 2027 yn cynnwys ein hamcanion allweddol a fydd yn helpu i sicrhau lles preswylwyr rŵan ac yn y dyfodol, yn ogystal â'n hymrwymiad parhaus i Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus.
Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych.
Mae'r Cynllun hwn yn nodi’r hyn yr hoffem ei gyflawni er budd preswylwyr a chymunedau lleol dros y pum mlynedd nesaf, i gyflawni’r Sir Ddinbych a Garem.
Mae’r Cyngor yn dal yn ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg, cydraddoldeb a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol - mae’r rhain yn egwyddorion allweddol sy’n sail ar gyfer ein holl wasanaethau a’r Cynllun Corfforaethol cyfan.
Rydym am sicrhau bod digon o dai o ansawdd uchel ar gael, gan ddiwallu anghenion holl drigolion Sir Ddinbych.
Rydym am gefnogi adferiad yn dilyn y pandemig, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd i alluogi trigolion i gael mynediad at gyflogaeth ac incwm da.
Rydym am hyrwyddo diogelwch, gwytnwch a lles pobl o bob oedran, gan ddefnyddio rhwydweithiau cymunedol cryf sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel, hapus, annibynnol a derbyn cymorth lle bo angen.
Rydym am gefnogi darpariaeth dysgu a hyfforddi o ansawdd sy’n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu llawn botensial, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Rydym am ddod yn sefydliad Di-garbon Net erbyn 2030, a chyfoethogi, cynnal a gwella ein hasedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth. Mae’n rhaid i ni hefyd liniaru a gweithio gyda chymunedau i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym am fod yn gyngor teg, tryloyw, sy’n perfformio’n dda, yn cynnig gwerth am arian, ac yn cynnig gwasanaeth da i gwsmeriaid yn gyson.
Sut y byddwn yn monitro cynnydd y Cynllun Corfforaethol.
Rydym ni’n adolygu ein perfformiad yn barhaus er mwyn gwirio ein cynnydd, adnabod unrhyw faes y gellir ei wella, a phennu camau gweithredu i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nodau.
Browser does not support script.